Gobaith newydd rhag cwympo o Uwch Gynghrair Cymru

  • Cyhoeddwyd
Niall McGuinness
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n bosib y bydd rheolwr Y Rhyl, Niall McGuinness yn aros yn yr Uwch Gynghrair

Gall clybiau pêl-droed Y Rhyl a Hwlffordd gael eu hachub rhag cwympo o Uwch Gynghrair Cymru, gyda Phort Talbot nawr yn wynebu disgyn o'r gynghrair am fethu ag ennill trwydded ddomestig.

Ni wnaeth yr un o'r ddau dîm ar gopa Cynghrair Huws Gray, Caernarfon a Dinbych, lwyddo i sicrhau'r drwydded chwaith.

Mae hi'n bosib felly y gall Y Rhyl a Hwlffordd aros yn yr Uwch Gynghrair ond gall Caernarfon a Dinbych apelio'r penderfyniad.

Rhaid pwysleisio hefyd bod Derwyddon Cefn hefyd wedi cael trwydded, ac mae ganddyn nhw obaith gwirioneddol o orffen yn y ddau uchaf yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, fyddai'n ddigon i ennill dyrchafiad o dan amgylchiadau arbennig.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod 20 clwb wedi ceisio am y drwydded ddomestig, ond mai 14 sydd wedi cael eu cadarnhau.

Mae'r Barri wedi sicrhau trwydded, felly byddan nhw'n cael dyrchafiad os ydyn nhw'n ennill y gynghrair y maen nhw'n arwain ar hyn o bryd, Cynghrair Cymru.

Apelio

Mae trwyddedau'n cael eu rhoi ar ôl ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys hyfforddiant, isadeiledd ac arian.

Ond mae'r clybiau sy'n drydydd a nawfed yng Nghynghrair Huws Gray, Derwyddon Cefn a'r Fflint, wedi sicrhau trwyddedau, ond mae'n rhaid iddyn nhw orffen yn y ddau safle uchaf i sicrhau dyrchafiad.

Mae clwb Met Caerdydd, sydd yn yr ail safle yng Nghynghrair Cymru y tu ôl i'r Barri, wedi methu sicrhau trwydded.

Yn y chwe thymor diwethaf mae tri chlwb wedi syrthio o'r Uwch Gynghrair am fethu sicrhau trwydded, a dim ond unwaith yn y pum tymor diwethaf y mae dau glwb wedi sicrhau trwydded a chael eu dyrchafu i'r Uwch Gynghrair.

Mae gan y clybiau sydd wedi methu sicrhau trwyddedau yr hawl i apelio cyn 21 Ebrill.