Tân yn achosi i do siop ddodrefn ddisgyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae tân mewn siop ddodrefn wedi achosi i do'r adeilad i ddisgyn yng nghanol Caerdydd, gan orfodi rhan o brif ffordd brysur i gau.
Mae 51 o ddiffoddwyr wedi bod yn delio â'r digwyddiad yn yr adeilad ar Heol y Ddinas.
Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Heol Vere yn y de a Heol Penllineyn yn y gogledd.
Dywedodd Jennie Griffiths o Wasanaeth Tân y De bod y tân ar lawr gwaelod a llawr cyntaf yr adeilad.
Ychwanegodd bod diffoddwyr yn gwneud eu gorau i ddiogelu adeiladau gerllaw ac fe wnaeth hi annog pobl sy'n byw gerllaw i gadw eu ffenestri ar gau.
Mae Dŵr Cymru hefyd wedi rhybuddio pobl gerllaw y gall eu cyflenwad dŵr droi ei liw oherwydd y digwyddiad.
Ffynhonnell y llun, Dai John/Twitter
Ffynhonnell y llun, Carys King