Costau gofal: Llafur am ddiwygio'r system

  • Cyhoeddwyd
Gofal

Mae caniatáu i bobl gadw mwy o'u harbedion yn hytrach na thalu am ofal pan maen nhw'n hŷn yn "ddêl decach i bobl sydd wedi talu'n deg" meddai Llafur Cymru.

Gydag etholiad y Cynulliad ar y gorwel mae'r pleidiau gwleidyddol yn gaddo diwygio'r system bresennol.

Ar hyn o bryd mae pobl yn gallu cadw hyd at £24,000 o'u hasedau cyn gorfod talu i fynd i gartref gofal.

Mae Llafur eisiau cynyddu'r ffigwr hynny i £50,000 tra bod y Ceidwadwyr Cymreig eisiau gosod cyfyngiad o £100,000.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llafur, Mark Drakeford:

"Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i roi help ychwanegol i bobl pan maen nhw'n hŷn gan roi dêl decach i bobl sydd wedi talu'n deg a thalu i mewn."

"Mae mwy na 15,000 o bobl dros 65 oed yn byw unai mewn cartrefi gofal neu nyrsio ar draws Cymru. Mae pobl yn gyson yn dweud wrthai faint o'r gofal yma maen nhw'n gorfod talu eu hunain.

"Trwy ddyblu'r cyfyngiad i £50,000 mi fydd miloedd o bobl yng Nghymru yn gallu cadw £26,000 o'r arian maen nhw wedi arbed er mwyn eu helpu nhw i gwrdd â'u hanghenion yn hwyrach yn eu bywydau."

Fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ym mis Mawrth y bydden nhw'n cynyddu'r cyfyngiad i £100,000. Dywedodd arweinydd y blaid Andrew RT Davies y bydden nhw'n arwain "llywodraeth sydd yn cynnig sicrwydd ac urddas i bobl hŷn."

Mae Plaid Cymru eisiau cael gwared ar y costau gofal yn llwyr sef cost o £226m dros gyfnod o ddau dymor yn y Cynulliad.