Yr RAF yn hebrwng awyren i faes awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dwy o awyrennau jet yr RAF wedi hebrwng awyren i faes awyr Caerdydd gan nad oedd yn ymateb i alwadau, yn ôl yr awyrlu.
Fe adawodd y ddwy awyren RAF Coningsby yn Sir Lincoln er mwyn adnabod "awyren sifil oedd ddim yn ymateb".
"Fe wnaeth yr awyren ail-sefydlu cysylltiad ac fe gafodd ei hebrwng yn ddiogel i faes awyr Caerdydd," meddai llefarydd ar ran yr Awyrlu.
Ychwanegodd fod maes awyr Caerdydd yn parhau ar agor ac yn gweithredu yn ôl ei arfer
Credir mai Challenger 300 oedd yr awyren sifil, a'i fod wedi colli cysylltiad radio dros dro.
Roedd dau aelod criw ac un teithiwr ar yr awyren.
Ffynhonnell y llun, Peter Howlett
Llun gan Peter Howlett o'r awyrennau uwchben Caerdydd
Ffynhonnell y llun, Peter Howlett
Awyren Typhoon yn hebrwng yr awyren sifil
Ffynhonnell y llun, Ian Grinter
Ian Grinter gymrodd y llun hwn o un o'r awyrennau jet o'i ardd yn Y Rhws