Yr IPCC yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn Aberdâr
- Cyhoeddwyd

Mae marwolaeth dyn 43 oed yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei ymchwilio gan oruchwylwyr yr heddlu.
Fe wnaeth y dyn ddechrau teimlo'n wael a bu farw ar ôl cael ei stopio gan yr heddlu ar Heol Biwt yn Aberdâr am tua 14:00 ddydd Iau.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn apelio am dystion.
Fe wnaeth Heddlu'r De gyfeirio'r digwyddiad i'r IPCC, wnaeth yrru ymchwilwyr i'r lleoliad.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth ond mae'r corff eto i gael ei adnabod yn ffurfiol.