Gwrthdrawiad Pen-y-bont: Dyn 81 oed yn marw yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4064 rhwng Llangeinwyr a Brynmenyn ddydd Sadwrn
Mae dyn 81 oed gafodd ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar dros y penwythnos wedi marw yn yr ysbyty.
Mae gyrrwr Vauxhall Astra 24 oed wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn y gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4064 rhwng Llangeinwyr a Brynmenyn ddydd Sadwrn.
Roedd y gŵr 81 oed, oedd yn gyrru Ford Fiesta, wedi bod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.