Torri dedfryd gyrrwr diofal wnaeth achosi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Gareth Entwhistle

Mae dyn wnaeth achosi marwolaeth myfyrwraig ifanc o ardal Cross Inn, Ceredigion, wedi cael ei ddedfryd wedi'i dorri ar ôl apêl.

Penderfynodd y Llys Apêl nad oedd y barnwr yn yr achos gwreiddiol wedi rhoi digon o ystyriaeth i'r ffaith fod Gareth David Entwhistle, 35 oed o Giliau Aeron, wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth Miriam Briddon drwy yrru'n ddiofal tra wedi bod yn yfed.

Cafodd ei ddedfryd ei leihau o bum mlynedd chwe mis i bum mlynedd.

Bu farw Ms Briddon, myfyrwraig oedd ar fin graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn tecstilau o Goleg Sir Gar, ar ôl i gar Entwhistle daro yn erbyn ei char ar yr A482 ger Ciliau Aeron ym Mawrth 2014.

Roedd Entwhistle ar ochr anghywir y ffordd pan ddigwyddodd y ddamwain.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Miriam Briddon ar fin graddio mewn tecstilau

Dywedodd Mr Ustus Gilbart bod yr achos yn un ofnadwy a'i fod yn nodi bod y troseddwr wedi cael "cyfanswm sylweddol o alcohol".

Ond ychwanegodd y dylai'r barnwr yn yr achos gwreiddiol fod wedi rhoi mwy o ystyriaeth i'r ffaith fod Entwhistle wedi pledio'n euog.

Yn wreiddiol, roedd wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad ond fe newidiodd ei ble ym mis Gorffennaf 2015.

Fe wnaeth y Llys Apêl dalu teyrnged i deulu Ms Briddon, oedd wedi dangos "dewder ac urddas" drwy gydol yr achos.