Cefnogaeth i weithwyr Tata ar y Liberty

  • Cyhoeddwyd
Port Talbot plantFfynhonnell y llun, Reuters

Mae rhai o weithwyr Tata ym Mhort Talbot wedi cludo baner o amgylch Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Y bwriad cyn y gêm rhwng Abertawe a Chelsea yn yr Uwch Gynghrair oedd i ddatgan cefnogaeth i'w hymgyrch i achub y gwaith dur.

Cafodd pump o weithwyr Port Talbot, safle sydd dan fygythiad o orfod cau, eu gwahodd gan y clwb i orymdeithio o amgylch y stadiwm cyn y gic gyntaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod y gwahoddiad yn arwydd o gefnogaeth y clwb i'r gweithwyr.

Dyma oedd gêm gyntaf Abertawe ers cyhoeddiad Tata eu bod am werthu eu safleoedd dur ym Mhrydain.

"Fe fyddai cau'r gwaith ym Mhort Talbot yn cael effaith enfawr ar y gweithwyr a'r economi," meddai'r llefarydd.

"Byddai cau yn cael effaith ar nifer o gefnogwyr fydd yn mynychu dydd Sadwrn.

"Mae'r Elyrch yn sefyll y tu cefn i'r diwydiant dur a'r gymuned leol drwy alaw am achub y diwydiant rhag cau."