Caerdydd: Ailagor ffordd wedi tân mewn siop
- Cyhoeddwyd

Mae rhan o stryd yng Nghaerdydd wedi ailagor i fodurwyr a cherddwyr wedi tân mewn siop ddodrefn yn y brifddinas.
Roedd y cyngor wedi dweud bod yr adeilad ar City Road yn ardal Cathays mewn cyflwr "ansefydlog" ac y byddai'r ffordd ar gau nes i dîm o arbenigwyr ddiogelu'r safle.
Bu difrod i tua 90% o'r siop ac fe ddisgynnodd y to, meddai'r gwasanaeth tân.
Dyw ddim yn glir eto beth achosodd y tân ddydd Iau.