Trac rasio: Ffigwr blaenllaw yn 'amheus' o'r lleoliad

  • Cyhoeddwyd
trac rasio

Mae ffigwr blaenllaw o fewn chwaraeon modur wedi dweud bod y diwydiant yn "amheus" o leoliad arfaethedig trac rasio yng Nglyn Ebwy.

Dywedodd Christopher Tate, sy'n gyfarwyddwr cymdeithas perchnogion traciau rasio Prydain, mai canolbarth Lloegr yw lleoliad rhan fwyaf o'r diwydiant.

Ddydd Mercher fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydden nhw'n gwarantu'r cynllun gwerth £357m yn ariannol.

Yn ôl y datblygwyr, mae'n bosib y gall cytuneb newydd gael ei gadarnhau o fewn wyth wythnos.

Mae'r cwmni, Heads of The Valleys Development Company, yn honni y gallai 6,000 o swyddi gael eu creu yn y tymor hir.

Pwysleisiodd Mr Tate nad cwestiwn oedd hwn ynghylch mwy o gystadleuaeth, ond ei fod wedi "synnu" a'i fod yn "bryderus" ynghylch y ffigyrau sydd wedi eu crybwyll.

Dywedodd hefyd bod cyhoeddiad cwmni ceir cyflym TVR i sefydlu ffatri newydd yng Nglyn Ebwy, â'r nod o greu 150 o swyddi, gyda thipyn o ffordd i fynd nes cyrraedd 6,000.

"Mae'r ffigwr hwnnw'n ddibynnol ar adeiladu gwestai, tai bwyta ac unedau ffatri a diwydiannol eraill ac yn y blaen," meddai Mr Tate wrth raglen Good Morning Wales BBC Cymru.

"Ar draws y Deyrnas Unedig - nid yn unig Cymru - mae yna brinder o lefydd gwag diwydiannol.

"Yr ail (bwynt) yw bod y diwydiant chwaraeon modur Prydeinig yn canolbwyntio ar beth maen nhw'n alw yn Motorsport Valley - sy'n mynd o ardal Rhydychen gan fynd drwy Sir Northampton tuag at swydd Caerlŷr a swydd Derby.

"Yno mae 50,000 o swyddi ac maen nhw'n ddibynnol ar ei gilydd.

"Felly does dim ots os ydi rhywun wedi awgrymu y dylai tracio rasio newydd gael ei adeiladu yng Nghernyw neu yn Aberdeen neu yng Nglyn Ebwy, neu yn Norwich.

"Byddai wedi bod tu allan i bentyrrau naturiol y diwydiannau yma ac mae hynny wastad wedi bod yn reswm arall dros fod yn amheus."