Abertawe 1-0 Chelsea
- Cyhoeddwyd

Mae Abertawe wedi curo Chelsea am y tro cyntaf yn yr Uwch Gynghrair er mwyn sicrhau y bydden nhw, i bob pwrpas, yn aros yn yr adran y tymor hwn.
Fe roddodd Gylfi Sigurdsson yr Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf wedi perfformiad addawol gan y tîm cartref.
Cafodd yr ymwelwyr fwy o'r meddiant yn yr ail hanner, ond doedden nhw methu torri drwy amddiffyn Abertawe.
Mae'r Elyrch 13 pwynt yn glir o'r tri isaf erbyn hyn ac mae Chelsea yn parhau yn 10fed.