Fulham 2-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
caerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe gipiodd Fulham fuddugoliaeth yn y munudau olaf yn erbyn Caerdydd gan roi ergyd i obeithion yr Adar Gleision o gyrraedd gemau'r ail gyfle.

Lex Immers sgoriodd i'r tîm o dde Cymru cyn i Scott Park unioni'r sgôr gyda'i gôl gyntaf o'r tymor.

Ond fe wnaeth Emerson Hyndman hi'n ddwy i'r tîm cartref sy'n golygu eu bod 10 pwynt yn glir o'r tri isaf.

Gyda pum gêm yn weddill, mae Caerdydd pum pwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.