Abertawe'n trafod â buddsoddwyr o America
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau eu bod mewn trafodaethau er mwyn cael perchnogion newydd.
Mae'r Elyrch yn gobeithio dod i gytundeb gyda Jason Levien a Steve Kaplan, dau ŵr busnes o America, cyn diwedd y tymor.
"Rydym yn credu fod gennym ni gynnig a fyddai'n helpu Abertawe symud ymlaen ar ac oddi ar y cae," meddai'r cadeirydd, Huw Jenkins.
Byddai Jenkins a'r dirprwy gadeirydd, Leigh Dineen, yn aros, gydag Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y clwb yn cadw'i siâr o 21% a sedd ar y bwrdd.
Daeth y newyddion wedi i Abertawe sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn.
Mae'r Elyrch yn cael eu rhedeg gan ddyn busnes lleol - ond nid dyma'r tro cyntaf i fuddsoddwyr obeithio elwa o statws y tîm o fewn yr Uwch Gynghrair.
Mae'n ymddangos bod y bwrdd yn teimlo'r angen i gael buddsoddiad ychwanegol er mwyn i'r clwb dyfu, gydag ehangu Stadiwm Liberty ymhlith y prif flaenoriaethau.