Dyn wedi disgyn i'w farwolaeth yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, David Johnston
Mae dyn wedi disgyn i'w farwolaeth wrth gerdded yn Eryri ddydd Sadwrn.
Fe lithrodd y dyn, yn ei 30au ac o Ganolbarth Lloegr, wrth ddringo lawr y Grib Goch tua 11:00, meddai Tîm Achub Mynydd Llanberis.
Roedd yn rhan o grŵp o dri a chafodd y gwasanaethau brys eu galw pan gyrhaeddodd y ddau arall Pen-y-Pas tua 13:00.
Y gred yw eu bod ar y ffordd lawr oherwydd tywydd garw pan ddigwyddodd y ddamwain.