Cyrff wedi cael eu darganfod ger Machynlleth ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae dau gorff wedi cael eu darganfod mewn eiddo ym Mhowys.
Fe gafodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r eiddo ger Machynlleth yn dilyn adroddiadau fod dynes 51 oed wedi marw'n sydyn.
Yn ystod archwiliad o'r ardaloedd cyfagos, daeth y swyddogion o hyd i gorff dyn.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r ddwy farwolaeth.
Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.