Gwraig y canwr Tom Jones wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Melinda Rose Woodward a Tom JonesFfynhonnell y llun, PA/PA Wire

Mae gwraig y canwr adnabyddus Tom Jones wedi marw ar ôl "brwydr fer ond ffyrnig gyda chanser".

Roedd y Fonesig Melinda Rose Woodward yn 75 oed.

Bu hi farw fore Sul mewn ysbyty yn Los Angeles, California.

Roedd y Fonesig Woodward wedi bod yn briod â'r seren ers 59 o flynyddoedd.

Mewn datganiad ar wefan y canwr, dywed fod y Fonesig Woodward wedi "marw'n heddychlon yng nghwmni ei gŵr ac anwyliaid".

Mae Syr Tom wedi canslo nifer o gyngherddau yn ddiweddar oherwydd "salwch difrifol" yn ei deulu.

Fe briododd y cwpl, a fagwyd gyda'i gilydd ger Pontypridd yn ne Cymru, pan oedd y ddau ohonynt yn 16 oed.

Mae ganddynt un mab, Mark, sy'n 59 oed, ef hefyd yw rheolwr Syr Tom.