Carchar i yrrwr am achosi marwolaeth dynes ifanc
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr wnaeth ladd dynes ifanc ar ôl gyrru saith o ffrindiau mewn fan oedd wedi ei dwyn wedi cael ei garcharu am saith mlynedd.
Fe wnaeth Kyle Perkins, 25 oed o Gwmaman, golli rheolaeth o'r fan yn Aberdâr ym mis Awst y llynedd.
Bu farw Sammy-Jo Davies, 19 oed, a chafodd chwe pherson arall eu hanafu'n ddifrifol yn y digwyddiad.
Roedd Perkins eisoes wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful, yn cynnwys achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Bu farw Sammy-Jo Davies yn y digwyddiad
Ffynhonnell y llun, Nathan Phillips