Gwrthdrawiad yn cau ffordd yng nghanol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdrawiad CaerdyddFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi rhan o ganol Caerdydd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng nifer o gerbydau.

Mae'r gwasanaethau brys yn delio â'r gwrthdrawiad, ddigwyddodd ger Carchar Caerdydd fore Llun.

Dywedodd y gwasanaeth tân ei fod yn gweithio i ryddhau person o un o'r cerbydau.

Mae Heol Adam a'r Ffordd Gyswllt ar gau ar hyn o bryd, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio trwy Heol Tyndall.