Tipuric i fethu taith Cymru i Seland Newydd gydag anaf
- Cyhoeddwyd

Cafodd Justin Tipuric ei daro'n anymwybodol yn chwarae yn erbyn Yr Eidal ar 19 Mawrth
Ni fydd blaenasgellwr y Gweilch, Justin Tipuric ar gael ar gyfer taith Cymru i Seland Newydd ym mis Mehefin oherwydd anaf.
Mae'r chwaraewr 26 oed wedi cael ei gynghori i ymlacio am dri mis ar ôl cael ei daro'n anymwybodol wrth chwarae yn erbyn Yr Eidal ar 19 Mawrth.
Dywedodd rheolwr tîm meddygol y Gweilch, Chris Towers: "Mae Justin yn gwella ar ôl y gyfergyd yn erbyn Yr Eidal.
"Ond gan ystyried ei symptomau, y cyngor yw y byddai'n well iddo gymryd ei amser cyn dychwelyd."
Mae Cymru'n chwarae tair gêm brawf yn erbyn y crysau duon rhwng 11-15 Mehefin.