Trafod cau tair o ysgolion cynradd Cymraeg Conwy
- Published
image copyrightGoogle
Bydd cynghorwyr yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod cau tair ysgol cyfrwng Cymraeg yng ngogledd Cymru.
Mae cynghorwyr yng Nghonwy eisoes wedi pleidleisio o blaid cau Ysgolion Dolgarrog, Tal y Bont a Threfriw yn 2017.
Byddai ysgol newydd yna yn cael ei hadeiladu yn Nolgarrog.
Mewn adroddiad i'r cabinet, fydd yn trafod y mater ddydd Mawrth, mae'r cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg a gwasanaethau plant yn dweud ei fod yn "gwbl gefnogol o'r argymhelliad".
Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 46 o bobl wedi gwrthwynebu'r cynllun, a bod deiseb gyda 280 o enwau arni wedi ei derbyn gan y cyngor.
Bydd aelodau'r cabinet yn trafod yn ddiweddarach.