100 yn gwrthwynebu cynllun tai newydd ger Caerffili
- Cyhoeddwyd

Mae dros 100 o bobl wedi bod mewn cyfarfod nos Lun i ddangos eu gwrthwynebiad at gynlluniau i adeiladu tai ar goedwig yn ne Cymru.
Bwriad Cyngor Caerffili yw adeiladu 136 o dai ar safle ym mhentref Pentwynmawr ger Trecelyn.
Mae'r safle yn addas i anifeiliaid fel pathewod ac ystlumod, ac mae ymgyrchwyr hefyd yn dweud y byddai adeiladu tai yn achosi problemau gyda mynediad i'r goedwig o'r ffordd.
Yn y cyfarfod yn Nhrecelyn, cafodd yr ymgyrchwyr eu hannog i ysgrifennu at y cyngor i wrthwynebu cyn i'r ymgynghoriad gau o fewn llai na phythefnos.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili bod "y cyngor yn ymgynghori ar hyn o bryd...ac y byddai'n gwerthfawrogi barn gan rai sydd â diddordebau".
Mae cynllun datblygu lleol Caerffili yn dweud bod angen 12,400 o dai ychwanegol dros y 15 mlynedd nesaf.