Dur: Llywodraeth i ysgwyddo dyledion?
- Published
Mae aelodau seneddol wedi clywed ei bod yn bosib y gallai buddsoddiad gan lywodraeth y DU yng ngwaith dur Port Talbot hefyd olygu ysgwyddo ychydig o ddyledion y safle.
Mewn trafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, hefyd fod yna gynlluniau ar y gweill i'r llywodraeth ddefnyddio mwy o ddur o'r DU mewn prosiectau ar gyfer y lluoedd arfog.
Ond mae Llafur wedi cyhuddo'r Llywodraeth o beidio â gwneud digon.
Roedd Mr Javid yn siarad yn ystod trafodaeth ar y diwydiant dur oedd wedi ei galw gan Lafur.
Ddydd Llun fe ddechreuodd cwmni Tata y broses ffurfiol o werthu eu safleoedd led led Prydain, gan achosi pryder am ddyfodol miloedd o swyddi.
Un o'r safleoedd lle mae'r dyfodol yn ansicr yw Port Talbot.
Mae'r Llywodraeth wedi dweud na fyddant yn fodlon gwladoli'r gwaith.
Ond ddydd Llun fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Busnes fod y Llywodraeth yn gweithio'n galed i ddod o hyd i brynwr yn y sector preifat gyda'r posibilrwydd "y bydd yna fuddsoddi ar y cyd o du'r llywodraeth, yn unol â thelerau masnachol."
Yn y drafodaeth ddydd Mawrth dywedodd wrth aelodau seneddol: "Y pwynt allweddol yw y byddai'n rhaid i fuddsoddi ar y cyd fod ar delerau masnachol, ond fe allai gymryd sawl ffordd, er enghraifft fe allai fod o ran talu dyledion."