Teulu'n galw ar adeiladwyr i gadw at reolau diogelwch
- Cyhoeddwyd

Mae teulu a gollodd eu tad mewn damwain ar safle adeiladu wedi apelio ar adeiladwyr i gadw at reolau iechyd a diogelwch.
Roedd Glyndwr Richards o Lanfyrnach ger Crymych yn dad i bump ac yn dad-cu i ddau.
Bu farw'r gŵr 54 oed wedi i ochrau ffos yr oedd yn gweithio ynddi ddymchwel tra roedd yn gweithio i gwmni Ryan Construction, ar safle Cymdeithas Tai Sir Benfro ym mis Mehefin 2012.
Ddydd Llun, cafodd yr adeiladwr oedd yn gyfrifol am y safle, William Ryan Evans o Drelech, ei garcharu am chwe mis ar ôl pledio'n euog i fethu a diogelu ei ddyletswyddau gofal tuag at Mr Richards.
Anwybyddu rhybuddion
Yn ystod yr achos yn Llys y Gorn Abertawe, clywodd y llys fod Ryan Evans wedi cael o leia ddau rybudd - yn yr wythnosau cyn marwolaeth Mr Richards - nad oedd yna gynhalion i ddal ochrau'r ffosydd ar y safle ym mhentre' Treletert.
Dywedodd merch Mr Richards, Anne Marie Wood, ei bod hi'n anodd clywed am y methiannau hynny yn y llys: "Crac, falle, yw'r gair, a hefyd, trist fod rhywun wedi anwybyddu rhybuddion iechyd a diogelwch, gan ei fod e'n rhywbeth mor fawr yn y maes adeiladu.
"Chi'n gwybod, os byddai'r pethe 'na wedi cael eu gwneud, bydde Dad dal gyda ni heddi... a bydde'r pedair blynedd diwetha wedi bod yn rhai lot hapusach."
Mae dau o feibion Glyndwr Richards yn gweithio fel adeiladwyr hefyd.
Yn ôl Owain Richards, mae'n glir y byddai ei dad yn dal yn fyw petasai'r rheolau diogelwch wedi eu dilyn: "Os bydde fe wedi dilyn y rheolau, bydde mwy o siawns bod Dad yma heddiw.
"Mae'n drueni bod heddi'n gorfod digwydd, mae'n drueni am y pedair blynedd diwetha.
"Fi'n siwr bod Ryan Evans yn difaru ddim dilyn y rheolau 'na ac os bydde fe wedi, bydde ddim o'r diwrnod ma wedi digwydd, a bydde'r pedair blynedd diwetha ni di bod drwyddo fel teulu a ffrindiau, bydde hwnna ddim wedi digwydd hefyd."
Wrth dalu teyrnged i'w thad, dywedodd Anne Marie Wood fod y gefnogaeth mae'r teulu nhw wedi ei gael dros y pedair blynedd diwetha wedi bod yn wych: "Tad ffantastig, allech chi ddim a bod wedi gofyn am well tad. Ffrind arbennig.
"Ma' pawb yn y gymuned yn dweud ei fod e'n ffrind arbennig i bob un, wnaethe fe unrhyw beth drostoch chi. Ffaelu gofyn am well."
"Ma pawb wedi bod yn ffantastig. Ni'n un teulu mawr yng Nghrymych, a mae pawb wedi'n helpu ni."