Darganfod carcharor yn farw yn ei gell yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae carcharor wedi ei ddarganfod yn farw yn ei gell yng Ngharchar Abertawe.
Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai fod corff Dean George, oedd yn 40 oed, wedi ei ddarganfod ddydd Sul.
Fe geisiodd staff ei adfywio a chafodd ambiwlans ei alw, ond cofnodwyd ei fod wedi marw am 16:30.
Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai y bydd Ombwdsmon Annibynnol y Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf yn cynnal ymchwiliad, fel sy'n arferol pan fydd marwolaeth yn y ddalfa.
Gwadu honiadau
Ond mae swyddogion wedi gwadu rhai honiadau yn y cyfryngau sy'n cysylltu'r farwolaeth â'r gwaharddiad ar ysmygu mewn carchardai.
Mae ysmygu wedi'i wahardd yn holl garchardai Cymru - Abertawe, Caerdydd, y Parc a Brynbuga - ers mis Ionawr.
Dywedodd swyddogion nad oedd gwirionedd i honiadau o "aflonyddwch a therfysg" yn Abertawe, a bod awgrymu fel arall yn "hollol anghyfrifol".