Merched Kazakhstan 0-4 Merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Kayleigh GreenFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Kayleigh Green rwydo ddwywaith yn yr hanner cyntaf

Mae gobeithion tîm Merched Cymru o gyrraedd pencampwriaeth Euro 2017 yn dal yn fyw wedi iddyn nhw drechu Kazakhstan ddydd Mawrth.

Roedd y Cymry ar y blaen o 2-0 o fewn 23 munud wrth i Kayleigh Green rwydo ddwywaith.

Gyda 13 o ergydion yn yr hanner cyntaf, gallai mantais Cymru fod wedi bod llawer mwy na dwy gôl wrth i'r ymwelwyr reoli'r chwarae.

Fe aeth Cymru'n bellach ar y blaen gyda chic o'r smotyn gan Helen Ward ar yr awr, cyn iddi ychwanegu pedwaredd o'r smotyn yn dilyn trosedd ar Jess Fishlock.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Merched Cymru'n aros yn y trydydd safle yn eu grŵp ar saith pwynt, ond yn cau'r bwlch tuag at Awstria a Norwy ar 12 pwynt.