Plaid Cymru: 'Band eang cyflym iawn erbyn 2017'
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru yn dweud y byddan nhw'n sicrhau bod holl gartrefi a chwmnïau Cymru yn cael mynediad i fand eang cyflym iawn erbyn 2017.
Byddai'r polisi'n adeiladu ar y cynllun Superfast Cymru sy'n anelu at ddarparu rhyngrwyd cyflymach i 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru erbyn 2016.
Fe fyddai cynghorau yn cael arian i gefnogi cynlluniau lleol i helpu safleoedd sy'n colli allan o dan gynllun Superfast Cymru.
Mae'r blaid hefyd yn anelu i gyflwyno band eang cyflym eithriadol ar draws y wlad erbyn 2025.
Mae'r term band eang cyflym iawn yn golygu cyflymderau cysylltu o rhwng 50Mb a 80Mb, tra bod band eang cyflym eithriadol yn gweithredu ar gyflymder o 80Mb i dros 100Mb.
Dywedodd Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru: "Mae cynllun Superfast Cymru wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel i wella'r cysylltiad cyflym iawn yng Nghymru, ond ni allwn fodloni ar hyn - rhaid i ni weithredu i wneud yn siŵr nad yw'n cartrefi, busnesau, na chymunedau yn cael eu gadael ar ôl."
Safbwynt y pleidiau eraill
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi addo cyflwyno gwelliannau cyffredinol i gysylltiadau symudol a band eang: "Wrth i etholiad arall ddod, dyma Plaid Cymru yn dod eto gyda mil o addewidion newydd heb eu costio'n iawn. Dydyn nhw ddim yn dweud sut y maen nhw'n bwriadu cyflawni hyn, neu sut y byddan nhw'n talu amdano."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae ein rhaglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf, yn darparu'r seilwaith digidol sydd ei angen i Gymru dyfu. Mae'r cynllun Superfast Cymru yn golygu cysylltiadau ffibr optig, sydd yn awr ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol, ac rydym yn gweithio i roi'r sylw mwyaf posibl i'r dechnoleg hanfodol."
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai eu plaid yn cynnal "trafodaethau argyfwng" gyda BT Openreach - y cwmni sy'n darparu llawer o wasanaethau band eang dros y rhwydwaith ffôn - ac yn mynnu amserlen gyflenwi sy'n sicrhau eu bod yn "canolbwyntio ar barciau busnes, ysbytai ac ysgol Cymru erbyn 2017 ".
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: "Hawdd yw gwneud addewidion cyn yr etholiad, ond mae Plaid wedi dal seddi yn y cynulliad ers datganoli a hyd yn oed wedi llywodraethu mewn clymblaid â Llafur, ond yn ôl pob golwg ychydig iawn o effaith maen nhw wedi'i gael."