Guiseley 3-1 Wrecsam
- Published
Cymerodd Guiseley gam enfawr ymlaen yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr nos Fawrth, gyda buddugoliaeth ddiogel yn erbyn Wrecsam
Roedd y tîm cartref dair gôl ar y blaen erbyn hanner amser, diolch i gôl gan Oli Johnson a dwy gan Adam Boyes.
Fe sgoriodd Sean Newton i Wrecsam yn yr ail hanner.
Mae Guiseley yn codi i'r deunawfed safle, a phum pwynt yn glir o'r safleoedd gwaelod, tra bod Wrecsam chwe phwynt yn brin o'r safleoedd ail-gyfle.