Gwyddonwyr Aberystwyth i arwain astudiaeth rhewlifoedd
- Cyhoeddwyd
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn arwain astudiaeth i mewn i'r peryglon a achosir gan rewlifoedd yn Chile.
Mae'r tîm wedi sicrhau grant o £370,000 i edrych ar achosion ac effeithiau peryglon rhewlifol dros gyfnod o ddwy flynedd, ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerwysg ac arbenigwyr yn Chile.
Bydd yr ymchwilwyr yn edrych ar y newid yn y rhewlifoedd, amlder a dosbarthiad y peryglon, gan gynnwys llifogydd, a hynny yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd.
Ym mis Chwefror fe gafodd rhewlif ei enwi ar ôl Neil Glasser o'r brifysgol.
"Mae llynnoedd a gronnwyd gan rew a marian yn datblygu yn Chile wrth i rewlifoedd gilio," meddai'r Athro Glasser.
"Maen nhw'n fygythiad cynyddol i gymunedau ac isadeiledd mewn ardaloedd yn is i lawr yr afon."
Ym Mheriw, mae llifogydd o achos rhewlifoedd wedi achosi tua 32,000 o farwolaethau yn y 20fed Ganrif.