Uwchgynghrair Cymru: Honiadau o fetio amheus

  • Cyhoeddwyd
dafabet

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau ei bod yn ymchwilio i honiadau o batrymau betio amheus, wedi canlyniad annisgwyl yn Uwchgynghrair Cymru.

Fe ddaw hyn yn dilyn gêm ar 9 Ebrill pan lwyddodd Clwb y Rhyl, sydd heb ennill mewn 16 gêm ac yn colli eu lle yn y gynghrair, i guro Port Talbot o bum gôl i ddim.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Bêl-droed: "Rydym yn ymwybodol o'r mater ac yn gweithio gyda'r awdurdodau priodol"

Daeth buddugoliaeth ddiwethaf Y Rhyl ym mis Hydref y llynedd.