Pryder nwy nerfau cynllun hydro Llanberis

Glyn Rhonwy Image copyright Eric Jones/Geograph

Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynlluniau i agor gorsaf drydan hydro yn Eryri yn dweud y gallai'r ardal fod wedi ei llygru gan nwyon nerfau o'r Ail Ryfel Byd.

Roedd rhan o'r safle yn Llanberis yng Ngwynedd yn gartref i storfa arfau'r Awyrlu Brenhinol, cyn iddo gael ei glirio yn y 1970au.

Mae adroddiad ar ran y datblygwyr yn awgrymu y gallai rhai ffrwydron fod yn dal wedi eu claddu yn yr hen chwarel.

Ond mae'n dweud bod nwy nerfau o'r Almaen wedi ei symud a'i ddinistrio ddegawdau yn ôl.

Mae cwmni ynni Snowdonia Pumped Hydro (SPH) eisiau defnyddio hen chwarel Glyn Rhonwy fel safle ar gyfer storfa drydan hydro wedi ei bwmpio.

Mae'r Arolygiaeth Cynllunio'n ystyried y cynlluniau ar hyn o bryd.

Pryderon am ffrwydron cemegol

Mae gan wrthwynebwyr i'r cynllun yn yr ardal bryder am lygredd yng Nglyn Rhonwy.

Cafodd y chwarel lechi ei defnyddio fel storfa ffrwydron gyfrinachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn ddiweddarach, cafodd y safle ei ddefnyddio i waredu hen fomiau, bomiau llaw a bwledi.

Cafodd miloedd o dunelli o arfau eu gadael yno, cyn i'r Awyrlu Brenhinol eu clirio yn ystod y 1970au.

Mae grwp "Pryderu Am Glyn Rhonwy" yn dweud eu bod yn credu y gallai ffrwydron cemegol hefyd fod wedi eu claddu ar y safle.

Cadarnhaodd adroddiad ymgynghorol fod 70,000 o siels nwy nerfau Tabun o'r Almaen oedd wedi eu cipio yn dilyn y rhyfel wedi eu cadw mewn chwarel yn Llanberis am gyfnod byr.

Image copyright Eric Jones/Geograph
Image caption Un o byllau hen chwarel Glyn Rhonwy

Yn ddiweddarach, cawson nhw'u symud i safle arall ger Caernarfon, cyn cael eu gollwng i'r môr yn y pendraw.

Fel rhan o'r broses gynllunio, gofynnodd SPH i gwmni ymgynghorol Zetica i archwilio'r materion yn ymwneud â ffrwydron ar y safle.

"Does neb yn cymryd y mater yma'n ysgafn", dywedodd llefarydd ar ran y cwmni hydro.

"Rydan ni'n dibynnu ar wybodaeth yn adroddiad Zetica. Mae'n cadarnhau fod bomiau Tabun Almaenig wedi eu cadw mewn man diogel yng Nglyn Rhonwy am gyfnod byr. Does dim tystiolaeth iddyn nhw gael eu storio mewn unrhyw fan arall."

Nododd yr ymgynghorwyr fod bwrdd ymchwilio yn y 1960au wedi dod i'r casgliad "ei bod hi'n ymddangos fod yr holl arfau cemegol Almaenig wedi eu symud yn llwyddiannus o RAF Llanberis".

Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu nad yw'n bosib sicrhau fod pob un siel Tabun wedi ei symud."

"Rydan ni'n credu fod o leiaf un bom Tabun ar y safle," medd Jeff Taylor, o'r grwp ymgyrchu.

Image copyright Snowdonia Pump Hydro

Dywedodd fod hynny'n seiliedig ar ddogfennau archif ar y chwarel, sy'n dangos lluniau o fomiau Tabun yn yr Almaen, a bom tebyg yn gorwedd mewn craig.

"Tystiolaeth amgylchiadol yw hyn, ond mae'n dystiolaeth amgylchiadol niweidiol," meddai Mr Taylor.

Mae'r cemegydd, y Dr Dave Peskett, sydd wedi cynnal ymchwil ar ran y grwp ymgyrchu, yn dweud ei fod wedi gweld dogfennau sy'n awgrymu fod yna hen siels nwy mwstard hefyd wedi eu gadael yn y chwarel yn y gorffennol.

Mae'r honiad hwnnw yn cael ei wrthod gan rai.

Ond ychwanegodd y Dr Peskett: "Nid y ffrwydron yw'r unig bryder fan hyn. Mae yna bentwr mawr o weddillion tocsig yna.

"Rhaid i rywun ddod i mewn i lanhau'r safle cyn i unrhyw ddatblygiad ddigwydd."

"Dim llygredd"

Dywedodd llefarydd ar ran SPH fod profion wedi eu cannal ar samplau dŵr yn y chwarel yn 2012 a 2015, ac nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw lygredd."

Ychwanegon nhw y bydden nhw'n delio'n drywadl gyda unrhyw fater petai'r anhebygol yn digwydd, a bod ffrwydron yn cael eu darganfod yng Nglyn Rhonwy.

"Bydd yn sicrhau diogelwch pobl a'r amgylchedd," dywedodd y swyddog.

Gofynnodd BBC Cymru am ymateb y Weinyddiaeth Amddiffyn i bryderon ynglŷn â'r safle.

Serch hynny, cafodd cais rhyddid gwybodaeth gan y grwp ymgyrchu ynglŷn â manylion y nwy nerfau o'r Almaen yn Llanberis ei wrthod ar y sail y byddai "rhyddhau gwybodaeth yn galluogi unigolion a mudiadau â chymhellion amheus i weithredu yn erbyn lles y genedl, ac felly o bwyso a mesur, ni ddylid rhyddhau'r wybodaeth."