58 ers '58: Yr Alban eto yn '85
- Cyhoeddwyd
Ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958, mae'r tîm cenedlaethol wedi dod yn agos at wneud eu marc ar y byd pêl-droed rhyngwladol sawl tro. Mewn cyfres o erthyglau, bydd Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r adegau cyffrous orffennodd mewn siom wrth i Gymru foddi wrth ymyl y lan.
Fe gafodd Cymru siom arall yn rowndiau rhagbrofol Euro 1984 wrth iddyn nhw fethu â chyrraedd y rowndiau terfynol o bwynt yn unig. Fe sgoriodd Iwgoslafia gôl yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd gêm olaf yr ymgyrch yn erbyn Bwlgaria, a honno oedd y gôl aeth ag Iwgoslafia i'r rowndiau terfynol a sicrhau bod Cymru'n aros adre.
Ond roedd yr ysbryd yn uchel wrth i rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 1986 ddechrau. Er hynny fe gafodd Cymru ddechrau gwael arall gan golli eu gêm gyntaf yn erbyn Gwlad yr Iâ - yr unig gêm iddyn nhw ennill yn ystod eu hymgyrch.
Serch hynny, roedd buddugoliaethau cofiadwy yn erbyn Sbaen yn Wrecsam a'r Alban yn Glasgow yn golygu bod Cymru'n mynd i'r gêm olaf ar 10 Medi 1985 yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn ddigon i sicrhau lle yng Nghwpan y Byd ym Mecsico yn 1986.
Parc Ninian - camgymeriad?
Rheolwr Cymru oedd Mike England, ac roedd e'n feirniadol dros ben o benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i chwarae'r gêm ym Mharc Ninian yng Nghaerdydd.
Roedd Cymru wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus pan yn chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam, gan gynnwys y fuddugoliaeth enwog o 3-0 yn erbyn Sbaen yn ystod yr un ymgyrch.
Ond gan fod Parc Ninian yn dal mwy o dorf, Caerdydd oedd y dewis
Ar y fainc ar y noson oedd prif hyfforddwr Abertawe erbyn hyn, Alan Curtis, ac mae'n cofio'r noson yn dda.
"Roedden ni wastad yn dechrau gemau'n dda yn yr adeg hynny," meddai. "Fe gafodd Sparky [Mark Hughes] y gôl ac yn yr hanner cyntaf fe chwaraeon ni'n arbennig o dda ac fe ddylen ni fod wedi bod ymhellach ar y blaen.
"Dwi ddim yn gwbod os oedd e'n rhywbeth meddyliol am nad oedden ni wedi cyrraedd cystadleuaeth am gyfnod, ond wedi'r egwyl fe wnaethon ni ildio'r fantais yn ôl i'r Alban... a wedyn fe gafon nhw gic o'r smotyn dadleuol arall!
"Roedd Dave Phillips yn ei chanol hi ac fe wnaeth y bêl daro'i fraich. Roedd hi'n ergyd galed a cwpwl o lathenni i ffwrdd ac roedd y penderfyniad yn ymddangos yn un llym iawn ar y pryd."
Dim ond 10 munud oedd yn weddill pan darodd David Speedie ergyd tuag at gôl Cymru. Fe darodd yr ergyd yn erbyn penelin yr amddiffynnwr Dave Phillips ac fe benderfynodd y dyfarnwr Jan Keizer o'r Iseldiroedd roi cic o'r smotyn i'r ymwelwyr.
Davie Cooper sgoriodd gan sicrhau lle yr Alban yng Nghwpan y Byd.
"Dwi ddim yn credu y byddai'r penalti wedi cael ei roi y dyddiau yma," meddai Curtis. "Roedd gan yr Alban ddigon o chwaraewyr profiadol yn rhoi pwysau ar y dyfarnwr, ac roedd digon o Albanwyr yn y dorf i wneud apêl swnllyd ac efallai bod y dyfarnwr wedi cael ei 'sgubo gan yr awyrgylch."
Pythefnos yn ddiweddarach daeth cadarnhad na fyddai Cymru'n mynd i Fecsico pan enillodd Sbaen yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Marwolaeth Jock Stein
Ond er y siom unwaith eto i gefnogwyr Cymru, fe gafodd cysgod anferth ei daflu dros y gêm ym Mharc Ninian pan ddatgelwyd tua hanner awr ar ôl diwedd y gêm bod rheolwr yr Alban Jock Stein wedi marw.
Cafodd ei gymryd yn wael ychydig eiliadau cyn i chwiban olaf a bu farw yn yr ystafell newid er gwaethaf ymdrechion i'w adfywio.
Roedd Stein yn un o gewri pêl-droed yr Alban ac ef arweiniodd y tîm enwog enillodd Gwpan Ewrop i Celtic yn 1967 gydag 11 o chwaraewyr gafodd eu geni o fewn 30 milltir i ddinas Glasgow.
Dywedodd Alan Curtis: "Wrth gwrs pan glywon ni bod Jock Stein wedi marw roedd hynny'n taflu cysgod dros bopeth ac yn rhoi'r noson mewn perspectif. Ond roedd hi'n dal yn noson o siomedigaeth chwerw iawn i ni ar ôl dod mor agos unwaith eto... a methu."
Oedd, roedd hi'n noson siomedig i Gymru, ond mae'n briodol iawn bod rhai gemau'n cael eu cofio am resymau llawer mwy pwysig.