Troseddau rhyw: Carcharu dyn am 12 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o'r canolbarth wedi cael dedfryd o 12 mlynedd o garchar ar ôl meithrin perthynas gyda merch ifanc, cyn rhoi cyffuriau iddi a'i threisio.
Fe wnaeth Christopher Wayne Edwards, 40 o'r Trallwng, bledio'n euog i dreisio, gweithred rhyw gyda phlentyn, cymryd lluniau anweddus a chyflenwi cyffuriau.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Edwards wedi dechrau'r berthynas pan oedd y ferch yn 15 oed.
Cafodd orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes.
'Hollol ddibynnol'
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth y diffynnydd bod y ferch wedi cyrraedd sefyllfa lle'r oedd "yn hollol ddibynnol ar eich cyffuriau".
Ychwanegodd: "Fe wnaethoch chi ddefnyddio cyffuriau i hwyluso'r troseddau a chymryd y delweddau mwyaf ofnadwy ohoni."
Dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd, Myles Wilson nad oedd Edwards yn ddyn soffistigedig a bod y ffaith iddo bledio'n euog wedi golygu nad oedd y ddioddefwraig wedi gorfod rhoi tystiolaeth o flaen y llys.