Rhwyfo mewn oergell ar Afon Dyfrdwy yn 'anghyfrifol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Y rhewgellFfynhonnell y llun, Maritime & Coastguard Agency
Disgrifiad o’r llun,
Credir eu bod wedi hwylio o Queensferry i Gei Connah cyn gadael yr oergell

Mae tri dyn a rwyfodd mewn oergell i lawr afon yn Sir y Fflint wedi cael eu galw'n "anghyfrifol iawn".

Fe wnaeth y dynion ddefnyddio darn o bren fel padl, gan arnofio am bron i ddwy filltir cyn gadael y llong dros dro ar lannau Afon Dyfrdwy.

Ffoniodd aelodau pryderus o'r cyhoedd wasanaeth Gwylwyr y Glannau ar ôl gweld y dynion nos Fawrth.

Y gred yw eu bod wedi hwylio o Queensferry i Gei Connah cyn gadael yr oergell a ffoi.

'Hynod o lwcus'

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau: "Fe wnaethon nhw redeg i ffwrdd wrth i'r tîm achub gyrraedd.

"Roedd yn anghyfrifol iawn. Nid oedd ganddynt siacedi achub, ac mae'n amlwg nad oedd y mwyaf sefydlog.

"Gallai pethau fod wedi mynd yn ddrwg iawn. Mae'n ardal lanwol iawn.

"Roedden nhw'n hynod o lwcus nad oeddent wedi suddo neu fynd yn sownd yn y mwd."