Maniffesto Dem Rhydd yn addo 'Cymru sy'n gweithio i chi'
- Cyhoeddwyd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi addo creu "Cymru sy'n gweithio i chi", wrth iddyn nhw lansio eu maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad.
Fe wnaeth yr arweinydd Kirsty Williams lansio'r ddogfen, sy'n amlinellu blaenoriaethau'r blaid ar gyfer y tymor nesaf yn y Cynulliad, mewn meddygfa ym Mhenarth ddydd Iau.
Dywedodd Ms Williams: "Mae pobl eisiau ysgolion da, ysbytai da ac economi fywiog."
Mae'r blaid yn addo mwy o nyrsys mewn ysbytai a dosbarthiadau llai mewn ysgolion, ymysg cynlluniau eraill.
"Wedi 17 mlynedd o ddatganoli, mae'n rhaid i ni greu Cymru sy'n gweithio i bawb a llywodraeth sy'n cael y pethau syml yn gywir," meddai Ms Williams.
"Rydyn ni wedi bod yn gwrando'n astud ar bobl Cymru, am sut y maen nhw'n teimlo am sut mae Llywodraeth Cymru yn perfformio, ac mae llawer o rwystredigaeth nad yw datganoli wedi cyflawni'r hyn oedd yn cael ei addo."
Maniffesto Mewn Munud: Y Democratiaid Rhyddfrydol
Polisïau
Mae polisïau pwysig eu maniffesto yn cynnwys:
- Mwy o nyrsys ar wardiau ysbytai;
- Cael llai o blant i bob dosbarth babanod
- Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros bum mlynedd
- Creu 'gweinyddiaeth busnesau bach' yn cynnig cyngor annibynnol
Dywedodd y blaid y byddai'n gwario £42m dros bum mlynedd yn sicrhau nad yw dosbarthiadau mewn ysgolion babanod â mwy na 25 o ddisgyblion "i roi amser i athrawon i ganolbwyntio ar anghenion pob plentyn yn unigol".
Maen nhw hefyd yn addo "adeiladu" ar fesur, gafodd ei gyflwyno gan Ms Williams a'i basio gan ACau ym mis Chwefror, i sicrhau bod gan ysbytai Cymru ddigon o nyrsys ar gael.
Byddai'r blaid yn cael gwared ar gymhorthdal ffioedd myfyrwyr, gyda myfyrwyr o Gymru yn derbyn grant cefnogol o £2,500 y flwyddyn.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amddiffyn pum sedd yn y Senedd.