Marwolaethau Machynlleth: Cyhoeddi enwau dyn a dynes
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn trin marwolaeth Tracy Cockrell fel achos o lofruddiaeth.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau dau o bobl gafodd eu darganfod yn farw ym Machynlleth dros y penwythnos.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn trin marwolaeth Tracy Cockrell, 51, fel achos o lofruddiaeth, ond nad oedd marwolaeth Nigel McGrath, 45, yn cael ei drin fel un amheus.
Cafodd y ddau eu darganfod yn farw ym Machynlleth
Dywedodd yr heddlu bod y ddau yn wreiddiol o ogledd Lloegr.
Nid yw'r heddlu yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae archwiliadau post mortem wedi eu cwblhau.