Etholiad y Cynulliad: Cynulleidfaoedd yn holi'r arweinwyr

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Bydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn ateb cwestiynau gan gynulleidfa stiwdio yn Aberystwyth nos Iau.

Dyma'r bedwaredd o bum dadl Ask the Leader dros gyfnod o bum noson o 11 Ebrill.

Y newyddiadurwraig a'r cyflwynydd, Bethan Rhys Roberts, sy'n cynnal y digwyddiad.

Bydd y rhaglen i'w gweld ar BBC One Wales am 19:00.

Pwy ydi Leanne Wood?

Roedd tipyn o syndod pan wnaeth Leanne Wood olynu Ieuan Wyn Jones fel arweinydd Plaid Cymru yn 2012.

Hi yw arweinydd benywaidd cyntaf Plaid Cymru, y cyntaf i beidio â siarad Cymraeg rhugl, a'r cyntaf o du allan i ardaloedd cryfaf y blaid yn y gogledd a'r gorllewin.

Yn syml, Ms Wood yw'r math o berson y mae Plaid Cymru angen ennill eu pleidlais os ydyn nhw byth yn bwriadu bod y blaid fwyaf yng Nghymru.

Wedi'i geni a'i magu yng Nghymoedd y Rhondda, lle mae hi'n parhau i fyw hyd heddiw, daeth diddordeb Ms Wood mewn gwleidyddiaeth yn ystod streiciau'r glowyr yn yr 1980au.

Ond yn wahanol i nifer o'i chyfoedion, trodd hi at Plaid Cymru yn hytrach na Llafur.

Cafodd Ms Wood ei hethol i'r Cynulliad yn 2003 fel aelod rhanbarthol ar gyfer Canol De Cymru cyn cael ei hethol yn arweinydd ei phlaid naw mlynedd yn ddiweddarach.

Eto i ddod

Dydd Gwener 15 Ebrill - arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones yn Llangollen