Mwy o nyrsys tramor i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr?

  • Cyhoeddwyd
Nyrs

Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr recriwtio nyrsys o Ynysoedd y Ffilipinau oherwydd trafferthion i gynnal lefelau staffio yn ysbytai gogledd Cymru.

Bydd y bwrdd yn wynebu cwestiynau cyngor iechyd cymunedol yr ardal mewn cyfarfod ddydd Iau.

Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi cyflogi nyrsys o Sbaen eleni i geisio datrys problemau prinder staff.

Dywedodd yr awdurdod iechyd ym mis Chwefror bod 14% o swyddi yn wag, gyda'r sefyllfa yn waeth yn ardal Wrecsam o'i gymharu â'r rhannau i'r gorllewin.

Mewn adroddiad i gyfarfod y bwrdd ddydd Iau mae'r is-gyfarwyddwr nyrsio, Anne-Marie Rowlands yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa staffio.

'Mwy o dramor'

Yn ôl yr adroddiad: "Mae recriwtio swyddi nyrsys yn parhau'n her, gyda mwy o staff asiantaethau yn cael eu defnyddio i lenwi'r bylchau.

"Mae nifer o gynlluniau ar waith i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys mynychu ffeiriau cyflogi, gyda'r bwrdd iechyd wedi teithio i Iwerddon ym mis Ebrill a Glasgow a Manceinion ym mis Mehefin.

"Mae'r gwaith o recriwtio graddedigion lleol ac o Ewrop yn parhau, gyda chryn dipyn o lwyddiant.

"Mae cynlluniau i recriwtio mwy o dramor, ac mae'r bwrdd iechyd yn ystyried recriwtio yn Ynysoedd y Ffilipinau."