Tata: Rhybudd am wneuthurwyr ceir oherwydd ansicrwydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r ansicrwydd dros ddyfodol safleoedd dur Tata yn golygu y bydd rhannau o'r diwydiant ceir yn edrych ar opsiynau tramor ar gyfer dur o ansawdd uchel, mae economegydd blaenllaw wedi rhybuddio.
Dywedodd yr Athro David Bailey o Brifysgol Aston ei fod yn gobeithio y byddai cwmnïau ceir yn parhau i gefnogi diwydiant dur y DU, ond rhybuddiodd y byddai Tata yn llai deniadol i brynwyr petai'n colli cwsmeriaid o fewn y diwydiant.
Ychwanegodd bod "rhaid i rywbeth gael ei wneud cyn bo hir i roi terfyn ar yr ansicrwydd".
Fe ddywedir mai safle Port Talbot sy'n gyfrifol am gyflenwi 45% o'r dur mae cwmni ceir Nissan yn ei ddefnyddio, ac mae safleoedd dur ar draws de Cymru yn cyflenwi Vauxhall.
Er bod y diwydiant ceir yn ffynnu yn y DU, mae amryw yn bryderus ei bod yn "argyfwng" ar y diwydiant dur.
'Achub y diwydiant'
"Rwy'n mawr obeithio y bydd gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr cydrannau ceir yn benodol yn parhau i gefnogi Tata yn y tymor byr, yn y gobaith y gall y problemau hyn gael eu datrys, a gallwn achub y diwydiant dur Prydeinig", meddai'r Athro Bailey wrth BBC Cymru.
Fodd bynnag, dywedodd ei fod yn "yn eithaf sicr y bydd gwneuthurwyr cydrannau yn edrych ar opsiynau eraill" yn arbennig dur o ansawdd uchel, a hynny o Ewrop.
Mae AS Aberafan, Stephen Kinnock wedi annog yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid i gynnal trafodaethau gyda chwsmeriaid Tata i'w darbwyllo i barhau i brynu gan y cwmni.
Ymatebodd Mr Javid mewn trafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin drwy ddweud ei fod yn cynnal trafodaethau gyda chwmnïau, ond na fyddai'n briodol i drafod unrhyw fanylion.