Teyrngedau i'r bardd Gwyn Thomas

  • Cyhoeddwyd
gwyn thomas

Mae'r Cymry wedi rhoi teyrngedau i'r bardd Gwyn Thomas, bu farw ar 13 Ebrill yn 79 oed. Roedd yn cael ei ystyried fel un o feirdd mwyaf dylanwadol y Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf. Cafodd ei angladd ei gynnal ar 23 Ebrill.

Yn frodor o Flaenau Ffestiniog, cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Ffestiniog, yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Yn ddiweddarach bu'n bennaeth ar yr Adran Gymraeg ym Mangor, ac mae ei gyfrol Y Traddodiad Barddol, yn hanfodol i fyfyrwyr Cymraeg hyd heddiw.

Ond yn ôl ei gyfaill Yr Athro Derec Llwyd Morgan, nid y gallu i farddoni oedd ei unig grefft.

"Roedd o'n gricedwr ardderchog yn ei ddydd," meddai. "Mi sefydlon ni, yn y saithdegau, dîm criced yr adran Gymraeg a'i Chyfeillion ym Mangor a Gwyn oedd y bowliwr cyflymaf.

"Dwi'n ei gofio fo'n torri bawd rhyw fatiwr. Pethau fel 'na mae dyn yn cofio."

Disgrifiad o’r llun,
Gwyn Thomas a Derec Llwyd Morgan - cricedwyr dawnus a ffrindiau agos

Ond yn ogystal â bod yn gricedwr da, roedd hefyd yn "un o feirdd mwyaf gwreiddiol yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain".

"Mi ddatblygodd Gwyn rhyw arddull doedd neb arall wedi ei ddatblygu," ychwanegodd yr Athro Derec Llwyd Morgan. "Roedd ganddo rhyw olwg ar bethe oedd yn wahanol i bobl eraill.

"Roedd yn gallu caru'r Gogynfeirdd a charu Elvis Presley, caru ffilms cowbois a charu Ellis Wynne o Lasynys gyda'r un fath o ddiddordeb a chynhesrwydd.

"Doedd o byth yn brolio'i hun - i'r gwrthwyneb. Yn ei hunangofiant [Bywyd Bach], mae'n dweud ei fod wedi gofyn i Jennifer ei wraig: 'Ti'n meddwl 'mod i'n dda am rywbeth?' 'Ti'n dda am blygu dy byjamas,' medde hi - dwi'n meddwl bod hynny'n crynhoi eu perthynas nhw - mor ffraeth efo'i gilydd."

Hogia' Blaena'

Bu'r cerddor Gai Toms, sydd hefyd yn hanu o Flaenau Ffestiniog, yn cydweithio â Gwyn Thomas fel rhan o gyfres BBC Radio Cymru, Yma Wyf Finnau i Fod. Dywedodd wrth Cymru Fyw fod "Cymru wedi colli cawr arall".

"Roedd Gwyn yn berson addfwyn iawn, ac yn falch iawn o'i fro enedigol," meddai.

"Roedd yn fraint cael gweithio efo fo ar y gân arbennig ar gyfer rhaglen Yma Wyf Finnau i Fod. Mi fydd y profiad o weithio efo fo yn aros efo fi am byth.

"Bydd colled fawr ar ei ôl a dwi'n cydymdeimlo'n fawr efo'r teulu."

Disgrifiad o’r llun,
Gwyn Thomas: 1936-2016

'Y deryn prin'

Cyhoeddodd Gwyn Thomas sawl cyfrol o draethodau, beirniadaethau a chyfieithiadau, gan gynnwys y llyfr arloesol, Y Traddodiad Barddol - astudiaeth ddofn o draddodiadau barddonol Cymru.

Mae Meirion MacIntyre Huws, neu Mei Mac fel mae'n cael ei adnabod, yn un o feirdd amlycaf Cymru ac mae'n credu fod gwaith Gwyn Thomas mor berthnasol ag erioed.

Meddai: "Mi ges i'r fraint o gael sgwrsio am y byd a'i bethau efo Gwyn Thomas, yr athro craff a'r ysgolhaig arbennig ar sawl achlysur, ond sgwrs gyda dyn cyffredin, dyn oedd â'i draed ar y ddaear ges i bob tro, nid sgwrs academaidd, athronyddol, er mai pethau academaidd ac athronyddol yn aml oedd testun y sgwrs.

"Mae gen i barch mawr tuag at ei waith gan iddo gynhyrchu cerddi syml a deifiol o gynnil oedd yn berthnasol i bobl heddiw.

"Hefyd, fel sy'n wir gyda mawrion llên, mi roedd o'n ddyn ffraeth iawn. Yn sicr welwn ni ddim mo'i debyg eto. Mae ein gwlad a'i thraddodiad barddol yn dlotach o lawer heddiw. Un o'r adar cyffredin, a'r un pryd yn dderyn prin."

Ffynhonnell y llun, S4C

Hiwmor

Bu Gwyn Thomas yn Fardd Cenedlaethol Cymru o 2006-2008. Gwyneth Lewis oedd y bardd wnaeth ei ragflaenu, ac fe ddywedodd ei fod yn ddyn yn llawn "gwreiddioldeb".

"O ran ei waith beirniadol mae e'n un sydd wedi coleddu'r traddodiad Cymraeg ac eto, o fewn hwnna, mae e fel bardd wedi agor ffordd newydd o farddoni yn Gymraeg," meddai.

"Mae e wedi rhoi goslef newydd i farddoniaeth Cymraeg. Oedd 'na hiwmor yna, ond nid bardd comic oedd e, bardd dwys oedd yn defnyddio comedi, oedd yn defnyddio hiwmor."

Dywedodd Gwyneth Lewis ei fod wedi ei ffonio pan gafodd ei ethol yn fardd cenedlaethol. "Fe wnaethon ni siarad am ba fath o waith mae'r swydd yn gofyn - ond wrth gwrs fe roddodd ei stamp ei hunan ar y gwaith hwnnw," meddai.

"Roedd e'n 'sgolor yn yr hen draddodiad Cymraeg ac, ar yr un pryd, roedd e'n lais ffres - a dyna oedd ei gamp fawr e i mi.

"O'n i wastad yn ffeindio fe'n berson cynnes, cefnogol a hefyd yn ddyn oedd - er ei fod e'n academydd ac yn fardd - yn uniongyrchol iawn ei iaith ac yn gweld pethau gyda llygaid clir iawn."

Disgrifiad,

Geraint Vaughan Jones yn rhoi teyrnged i Gwyn Thomas ar Taro'r Post

Bu Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Christine James, hefyd yn talu teyrnged: "Roedd yr Athro Gwyn Thomas yn gymeriad gwir amryddawn, a wnaeth gyfraniad pwysig i lawer o agweddau ar fywyd diwylliannol Cymru.

"Byddaf i'n cofio amdano'n arbennig fel bardd a feddai ar lais unigryw, ac fel beirniad llenyddol golau a chraff. Diolch am bopeth a gyflawnodd."

Bu amryw yn cyfrannu i raglen Taro'r Post, BBC Radio Cymru, ddydd Iau hefyd mewn rhifyn arbennig i dalu teyrnged i Gwyn Thomas.

Dywedodd yr Athro Branwen Jarvis: "Roedd ganddo hiwmor arbennig ac roedd o'n gymeriad amlochrog iawn. Roedd yn defnyddio plethwaith o iaith lafar 'Stiniog a iaith gaslurol i greu ieithwedd gyfoethog, amrywiol oedd yn hawdd cyrraedd ati.

"Mae'n werth cofio yr egni a'r dycnwch anhygoel oedd ganddo. Mae swm ei waith dros y blynyddoedd yn rhyfeddol."

Ychwanegodd Aneirin Karadog ar Taro'r Post: "Doedd e ddim yn mynd yn hen ffasiwn wrth heneiddio.

"Tasen ni fel beirdd ifanc yn cyflawni chwarter be wnaeth Gwyn Thomas fe fydden ni'n g'neud yn dda iawn."

Cyfraniad aruthrol

Dywedodd y cyn-Weinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones: "Trist iawn yw'r newyddion am farwolaeth Gwyn Thomas. Mae Cymru wedi colli ysgolhaig amryddawn a dyn annwyl iawn.

"Mi wnaeth gyfraniad aruthrol fel bardd ond hefyd fel person a oedd â'r gallu i ddehongli llenyddiaeth i gynulleidfa gyfoes.

"Yn ŵr o 'Stiniog, roedd e'n ymfalchïo yn ei gefndir, ei fro a'r diwylliant a oedd wedi cael ei fagu ynddo.

"Mi fues i'n ffodus iawn i fod yn un o'i fyfyrwyr ac roedd ei hiwmor yn amlwg iawn yn ei ddarlithio."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Tra roedd Gwyn Thomas, fel mae eraill wedi sôn, yn ysgolhaig mawr, roedd ganddo hefyd y gallu i gyfleu gwybodaeth - am yr iaith, ei llên, ei gramadeg a'i hanes - mewn ffordd oedd yn ddealladwy ac yn ddifyr i drwch y boblogaeth.

"Fe wnaeth lawer i boblogeiddio'r Gymraeg ac fe ysgogodd genedlaethau o bobl ifanc i ymddiddori yn yr iaith a'i mwynhau.

"Wrth gydymdeimlo â'r teulu yn eu colled, hoffwn ddiolch am gymwynaswr mor hoffus i'r iaith Gymraeg."

Meddai'r Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, fod "Cymru wedi colli un o'i phrif feirdd ac un o'i hysgolheligion uchaf ei barch".

"Yn ddiamau Gwyn Thomas oedd un o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, gan ei fod yn fardd mor arloesol. Roedd ei gyfraniad yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau academaidd i gynulleidfa eang, ac yn aml gan ddefnyddio cyfryngau eraill fel ffilm a theledu.

"Fe gyhoeddodd Gwyn Thomas ei gyfrol olaf tra oedd ar dir y byw, Llyfr Gwyn, y llynedd, ac mae'n sôn ynddo am yr holl ddylanwadau a fu arno. Roedd felly'n gynhyrchiol ac yn greadigol hyd y diwedd un."

Cenedl yn cofio

Bu sawl un yn talu teyrnged i Gwyn Thomnas ar wefannau cymdeithasol hefyd, gan gynnwys y to ifanc o feirdd Cymru:

Meddai'r prifardd Guto Dafydd ar ei gyfrif Twitter: "Roedd Gwyn Thomas yn fardd ac yn ysgolhaig arbennig. Coffa da amdano, a diolch am y wybodaeth a'r ysbrydoliaeth."

Ar ei dudalen Facebook, fe roddodd yr awdur Dewi Prysor y deyrnged yma iddo: "Ieithydd, bardd a boi hynod o blith gwerin Stiniog. Taro mewn iddo yn bob man rownd y wlad, o'r Babell Lên i B&Q, ac wastad yn aros i sgwrsio. Ges i'r fraint o weithio efo fo ar broject yma yn Blaena hefyd. Roedd ei wybodaeth a brwdfrydedd am yr ardal a'r iaith yn anferthol.

"Academydd agored ei feddwl, yn derbyn bathiadau newydd a geirfa gyfoes fel ychwanegiadau naturiol i iaith fyw ein cymunedau.

"'Mae sŵn llechi'n crafu'r nos...' Cysga'n dawal Gwyn.x"

Mae'r ysgolhaig Dafydd Glyn Jones wedi ysgrifennu blog yn cofio am Gwyn Thomas.

"Drwy'r blynyddoedd yn ei gwmni cawsom lawer o hwyl a chwerthin am bethau bach digri, diniwed," meddai. "Yr ydym wedi colli cyfaill mawr iawn."

Bu Llenyddiaeth Cymru yn trydar hefyd: "Tristwch o'r mwyaf clywed am farwolaeth Yr Athro Gwyn Thomas, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru. Gŵr talentog, ffraeth a hynaws."

Mae Newyddion 9 wedi trydar clip fideo yn dilyn marwolaeth Gwyn Thomas. Bydd mwy ar S4C heno am 21:00.

Bydd rhaglen Gwyn Thomas: Gŵr y Geiriau yn cael ei dangos eto ar S4C nos Sul yma, 17 Ebrill am 22.00.