Gorchymyn llys i ddau heddwas o Heddlu'r De
- Cyhoeddwyd

Mae dau heddwas o Heddlu De Cymru wedi cael gorchymyn llys wedi digwyddiad yn ymwneud â swyddog arall yn y llu.
Bydd PC Jeremy Fowler, 39 oed, yn ymddangos ar gyhuddiad o ymosodiad rhyw a PC Mathew Davies, 37 oed, yn ymddangos ar gyhuddiad o ymosod.
Mae'r ddau wedi eu gwahardd o'r gwaith wrth i'r ymchwiliad barhau a bydden nhw'n ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ym mis Mehefin.
Mae'r cyhuddiadau yn gysylltiedig â digwyddiad ddwy flynedd yn ôl.