Pencampwriaeth Snwcer y Byd: Day i wynebu Higgins
- Cyhoeddwyd

Yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Snwcer y Byd, bydd y Cymro Ryan Day yn wynebu John Higgins, sydd wedi ennill y gystadleuaeth bedair gwaith.
Yn y rhagbrofion, fe wnaeth Day guro Pencampwr y Byd 1997, Ken Doherty 10-6 ddydd Mercher i gyrraedd y rownd gyntaf.
Bydd Mark Williams - yr enillydd yn 2000 a 2003 - yn wynebu pencampwr 2006, Graham Dott, yn y rownd gyntaf.
Michael White yw'r Cymro arall ,a bydd yn wynebu Sam Baird o Loegr.
Mae'r gystadleuaeth yn dechrau ddydd Sadwrn.
Gemau'r Rownd Gyntaf
Stuart Bingham v Ali Carter
Stephen Maguire v Alan McManus
Ricky Walden v Robbie Williams
John Higgins v Ryan Day
Judd Trump v Liang Wenbo
Martin Gould v Ding Junhui
Mark Williams v Graeme Dott
Neil Robertson v Michael Holt
Shaun Murphy v Anthony McGill
Marco Fu v Peter Ebdon
Barry Hawkins v Zhang Anda
Ronnie O'Sullivan v David Gilbert
Mark Allen v Mitchell Mann
Joe Perry v Kyren Wilson
Michael White v Sam Baird
Mark Selby v Robert Milkins