Cantref: Cyngor Sir Gâr yn mynegi diddordeb cyd-reoli

  • Cyhoeddwyd
Cantref

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cadarnhau fod gan yr awdurdod ddiddordeb ymgymryd â pheth o'r cyfrifoldeb o reoli Cymdeithas Tai Cantref.

Mae'n debyg bod y mater wedi ei drafod y tu ôl i ddrysau caeedig ddydd Mawrth gan y Cyngor Llawn a gan y Bwrdd Gweithredol yr wythnos ddiwethaf.

Cyhoeddodd Cantref gynlluniau ym mis Mawrth i chwilio am bartneriaeth, yn dilyn adolygiad o'i waith a'i reolaeth gan Lywodraeth Cymru.

Ymddiswyddodd Prif weithredwr Cantref, Lynne Sacale, yn gynharach yn y mis, ar ôl deng mlynedd wrth y llyw.

Hilary Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin sydd wedi cymryd at yr awennau dros dro.

'Rhannu gwerthoedd'

Mae Tai Cantref yn darparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau lletya i bron i 3,500 o bobl. Ar hyn o bryd, mae gan y sefydliad 1,691 o dai i'w rhentu, a 44 yn ychwanegol yn cael eu datblygu.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai: "Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb i gael ei ystyried yn bartner a ffefrir i Gymdeithas Tai Cantref.

"Mae'r Cyngor yn rhannu llawer o werthoedd craidd Tai Cantref, yn enwedig mewn perthynas â'r iaith Gymraeg a thai gwledig fforddiadwy.

"Byddai hyn yn gyfle inni gydweithio i ddatblygu'r berthynas honno ac i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer tai cymdeithasol fforddiadwy o ansawdd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol