Creu llanast?

  • Cyhoeddwyd
Mari Lovgreen

Bydd Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn cael ei chynnal rhwng 16-24 Ebrill. Ymhlith yr awduron fydd yn cynnal sesiynau yn ystod yr wythnos mae'r cyflwynydd Mari Lovgreen.

Mae Mari newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant - 'Llanast'. Bu'n sôn mwy am y stori a'i chariad at lyfrau wrth Cymru Fyw:

Gwireddu breuddwyd

Mi oedd hi'n freuddwyd yn cael ei gwireddu. Dwi wastad wedi bod isho sgwennu llyfrau i blant ac mi oedd hi'n anodd credu mod i wedi tan geshi'r copi yn y post. Neshi wirioni fatha hogan fach bora Dolig! Ro'n i mor hapus efo lluniau Helen Flook hefyd - mae nhw'n ychwanegu gymaint at y stori dwi'n meddwl. Diolch i Gwasg Gomer am yr holl gymorth, ac am y cyfle i wireddu breuddwyd.

Dwi'n meddwl mai un o'r petha trista ond sy' wastad yn mynd drw' feddylia pobl ydi 'man gwyn man draw'. 'Da ni gyd yn ei neud o, cymharu'n bywydau gydag eraill a meddwl petha fatha 'os fyswn i ond yn.../petawn i'n gallu.... Ma'n bwysig weithia gwerthfawrogi be' sy' reit dan ein trwynau ni!

Dyma neges y stori deud y gwir!

Disgrifiad o’r llun,
"Da di'r llyfr 'ma!"

Ma Anni wedi cael llond bol o'r holl lanast gwallgof yn ei chartref (sydd ddim rhy wahanol i nghartref i), ond erbyn y diwedd ma' hi'n sylweddoli nad oes unman yn debyg i adref.

Mae darluniau Helen Flook yn dod â'r llyfr yn fyw. Gwasg Gomer gysylltodd â Helen, a dwi mor falch iddi gytuno. Mae ei lluniau hi'n arbennig, ac yn ychwanegu gymaint at y stori. Dwi'n ffan mawr o'i gwaith hi.

Pan yn fach iawn ro'n i'n hoff o lyfrau Angharad Tomos fel Rala Rwdins. Pan ro'n i 'chydig yn hyn Jaqueline Wilson a straeon Tracy Beaker oedd y ffefrynnau.

Mi fydda' lot o bobl yn galw'r hyn dwi'n ddarllen rwan fel 'sothach'. Dwi'n licio straeon sy'n gneud i mi grïo am ryw reswm. Pethau hawdd i'w darllen sy'n llawn drama juicy ac yn gafael o'r cychwyn un.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mari wrth ei bodd yng Ngwlad y Rwla pan yn fach

"Lot o hwyl"

Dwi'n gobeithio fod Gŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd yn dangos fod darllen a sgwennu a bod yn greadigol yn gallu bod yn lot o hwyl. Yn bersonol dwi'n edrych ymlaen i weld Dewi Pws yn dod â chymeriadau Roald Dahl yn fyw ar Ddydd Sul ola'r Ŵyl - dwi'n siwr fydd o'n ddoniol a diddorol.

Mi fyddai i hefyd yn ceisio annog plant i greu 'Llanast' efo geiriau. Mi fyddai'n darllen fy llyfr 'Llanast' i ddechrau, yna rhoi cyfle i'r plant ddewis pa lanast sydd yn eu hystafelloedd dychmygol nhw. Y mwya random fydd y cynnwys, y gorau! Nesh i gwpwl o sesiynau sgwennu efo plant yn Steddfod Meifod llynedd. Ro'n i wrth fy modd! Sa'm byd yn curo dychymyg plentyn.

Dwi'n gobeithio sgwennu llyfr arall cyn bo hir - os gai lonydd gen Betsan y ferch! Ma hi'n job canolbwyntio ar sgwennu dyddia yma.

Os 'dach chi'n awyddus i sgwennu llyfr, ewch amdani. Dilynwch eich breuddwyd a chredwch yn eich hun!

Disgrifiad o’r llun,
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn cael ei chynnal 16-24 Ebrill