Defnydd 'uchaf erioed' o fanciau bwyd, yn ôl elusen
- Published
Mae'r defnydd sy'n cael ei wneud o fanciau bwyd yng Nghymru yn "parhau ar ei lefel uchaf erioed", er gwaethaf gostyngiad bychan, yn ôl un elusen.
Cafodd 85,656 o becynnau bywyd am dridiau eu rhoi ym mlwyddyn ariannol 2015/16 o'i gymharu â 85,875 y flwyddyn flaenorol, meddai Ymddiriedolaeth Trussell.
Dywedodd mai'r newidiadau a'r oedi wrth dalu budd-daliadau oedd y rheswm mwyaf am y galw ac yn gyfrifol am 43% o'r ceisiadau.
Dywedodd Tony Graham, rheolwr Cymru o'r Ymddiriedolaeth: "Mae 85,000 o fagiau bwyd tridiau sy'n cael eu rhoi yn 85,000 yn ormod."
Yn ôl ffigyrau roedd 31,267 o'r pecynnau yn mynd i blant.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen nad yw'n bosib rhoi'r union ffigwr ar gyfer pobl sydd wedi derbyn cymorth oherwydd bod rhai yn ymweld fwy nag unwaith.
"Mae prinder bwyd ac effeithiau llwgu yn bethau sy'n parhau i effeithio ar bobl y wlad hon," meddai Mr Graham.
Pecynnau bywyd gafodd eu rhoi yng Nghymru: 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2016
Abertawe - 4,795
Blaenau Gwent - 3,578
Bro Morgannwg - 3,200
Caerdydd - 12,078
Caerffili - 5,601
Casnewydd - 2,416
Castell-nedd Port Talbot - 4,088
Ceredigion - 1,326
Conwy - 918
Gwynedd - 2,463
Merthyr - 3,781
Pen-y-bont ar Ogwr - 5,336
Powys - 2,004
Sir Benfro -1,302
Sir Ddinbych - 1,133
Sir Fynwy 2,916
Sir Gaerfyrddin - 6,315
Sir Y Flint 5,766
Rhondda Cynon Taf - 5,345
Torfaen - 5,266
Wrecsam - 4,743
Ynys Môn - 1,256