Cyhoeddi dyddiad canlyniad apêl Ched Evans

  • Cyhoeddwyd
Ched EvansFfynhonnell y llun, PA

Bydd penderfyniad am apêl y pêldroediwr Ched Evans yn erbyn ei euogfarn am dreisio dynes yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau nesaf.

Cafodd Evans ei garcharu yn 2012 am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Penderfynodd barnwyr o'r Llys Apêl ohirio eu penderfyniad yn dilyn gwrandawiad ym mis Mawrth oedd yn ystyried gwybodaeth gan dîm cyfreithiol Ched Evans.

Cafodd y chwaraewr rhyngwladol ei ryddhau o garchar yn 2014 wedi iddo dreulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.

Nid yw Evans, oedd yn arfer chwarae i Manchester City, Norwich a Sheffield United wedi derbyn cytundeb gan glwb newydd wedi iddo adael y carchar.