Gwahardd pêl-droediwr am sylwadau am Adam Johnson
- Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru wedi ei wahardd rhag chwarae am sylwadau wnaeth am gyn bêl-droediwr Lloegr, Adam Johnson.
Cafodd Ryan Wade, 28, sy'n chwarae i glwb Airbus UK Brychdyn, ei wahardd rhag chwarae am dair gem gystadleuol.
Daeth gwrandawiad ar 5 Ebrill i'r canlyniad bod sylwadau Wade wedi "dwyn anfri" ar bêl-droed.
Cafodd Adam Johnson ei garcharu am chwe blynedd ym mis Mawrth am fagu perthynas amhriodol ac am weithgaredd rhywiol gyda merch 15 oed.
Mae Johnson wedi apelio yn erbyn ei ddedfryd.
Mae BBC Cymru yn deall bod panel disgyblu yn credu bod natur sylwadau Mr Wade yn sarhaus ac yn cydymdeimlo gyda Johnson.
Yn ogystal â'r gwaharddiad, mae Wade wedi cael dirwy o £150 a bydd rhaid talu costau o £50.
Dywedodd Airbus UK Brychdyn bod y clwb wedi ymchwilio i'r mater a bod yr ymchwiliad hwnnw ar ben erbyn hyn.