Dirwy o £200,000 i gwmni o Lanelli am ollwng gwastraff

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff SospanFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae perchnogion cwmni rhentu sgipiau o Lanelli wedi cael dirwy o dros £200,000 am waredu miloedd o dunelli o wastraff yn anghyfreithlon.

Fe wnaeth William Nigel Charles, Bruce Charles a Susan Charles o gwmni Sospan Skips gyfaddef y cyhuddiadau amgylcheddol ar ôl gollwng gwastraff ar dir fferm yn sir Gaerfyrddin rhwng mis Ebrill 2009 a Mai 2014.

Cafodd miloedd o dunelli o wastraff ei ollwng, ac fe wnaeth William Charles hefyd gael gwared ar asbestos ar dir fferm yn Ffwrnais, Llanelli.

Mae gan William Charles a Susan Charles ddwy flynedd i dalu'r costau, a bydd rhaid i Bruce Charles dalu £10,000 mewn costau.