Trafod agor parc tonfyrddio yn Sir Benfro
- Published
image copyrightBen Walton
Bydd cynlluniau i greu parc tonfyrddio yn Sir Benfro yn cael ei drafod gan y cyngor yr wythnos nesaf.
Bydd trafodaeth ar gais cynllunio Mark, Sarah a Stephanie Harris ddydd Mawrth.
Mae'r teulu eisoes wedi prydu tir ger Parc Antur Oakwood, ble maen nhw'n gobeithio creu llyn a system o geblau i dynnu tonfyrddwyr ar draws y dŵr.
Os fyddai'n cael ei gymeradwyo, gallai'r parc fod yn barod erbyn Pasg 2017.
Dywedodd Mark ei fod ef a'i chwiorydd wedi cael eu magu yn Sir Benfro, a'u bod eisiau creu atyniad newydd fyddai'n apelio at bobl leol ac ymwelwyr.
"Rydyn ni'n frwdfrydig am y gamp, a gyda llwyddiant parciau tonfyrddio eraill yn y DU, roedden ni'n gwybod y byddai creu un yn Sir Benfro yn gyfle grêt," meddai.