Cyfathrebu'n Gymraeg yn 'hanfodol' i bobl sâl

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud ei bod yn "hanfodol" bod pobl sy'n agored i niwed neu'n wynebu problemau iechyd yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith eu hunain.

Daw sylwadau Meri Huws ar BBC Radio Cymru yn sgil pryderon gafodd eu codi ar raglen Taro'r Post gan ddynes o Wynedd.

Dywedodd Nerys Hughes o Bwllheli bod gan ei gŵr, Emlyn, gyflwr niwrolegol sydd wedi effeithio ei allu i siarad, ond yn Saesneg yn unig mae teclyn a gafodd er mwyn cyfathrebu yn gweithio.

Mae'r bwrdd iechyd yn "cydnabod pwysigrwydd" cyfathrebu drwy'r iaith sydd orau i gleifion, tra bod y cwmni sy'n gwneud y teclyn yn "yn croesawu adborth am ein cynnyrch".

'Iaith y cartref'

Cafodd Emlyn Hughes deipiadur Light Writer gan Ysbyty Gwynedd er mwyn helpu iddo gyfathrebu, ond dim ond yn Saesneg mae modd ei ddefnyddio.

Dywedodd Ms Hughes mai "Cymraeg yw iaith y cartref" ac nad yw'n gallu dychmygu sefyllfa ble mae'n rhaid i'w theulu gyfathrebu yn Saesneg.

Dywedodd y Comisiynydd wrth raglen Taro'r Post ar Radio Cymru bod "mwy a mwy o elfennau technolegol i'r gwasanaethau a'r offer yr ydym yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt yn ein bywydau bob dydd" a bod angen "sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o'r gwasanaethau a'r offer hyn".

"Dros y blynyddoedd, rydw i a'r swyddogion wedi gweithio'n agos â nifer o gwmnïau i'w cynghori a'u cynorthwyo wrth raglennu'r Gymraeg i wahanol ddatblygiadau technolegol.

"Cyhyd â bod yr offer yn bodoli a bod modd rhaglennu ieithoedd iddo, mae hi'n bosibl cynllunio i wneud yn siŵr fod y Gymraeg hefyd yn cael ei hadnabod."

'Gwneud popeth y gallwn ni'

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi "cydnabod pwysigrwydd helpu cleifion i gyfathrebu drwy gyfrwng iaith sydd orau ganddynt" a dywedodd llefarydd bod y bwrdd "wedi edrych yn helaeth i geisio canfod offer addas ar gyfer Mr Hughes".

"Er y gallwn gynnig ystod o gymhorthion cyfathrebu, gyda rhai ohonynt yn cefnogi'r iaith Gymraeg, yn anffodus nid oes dim un o'r rhain yn addas ar gyfer claf sydd ag anghenion Mr Hughes.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni i helpu Mr Hughes, ac rydym yn chwilio'n rhagweithiol am ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r broblem hon iddo."

Dywedodd cwmni Abilia UK, sy'n gyfrifol am wneud y Light Writer bod y penderfyniad i beidio â chynnwys y Gymraeg wedi ei wneud "beth amser yn ôl â hynny yng nghyfnod datblygu'r meddalwedd".

"Rydym bob amser yn agored ac yn croesawu adborth am ein cynnyrch a byddaf yn gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei basio ymlaen i'n tîm datblygu cynnyrch i'w ystyried mewn datblygiadau o'r Light Writer yn y dyfodol."