Joe Cordina ar ei ffordd i'r Gemau Olympaidd yn Rio
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro, Joe Cordina wedi llwyddo i ennill ei le yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro, Brazil yr haf hwn.
Fe lwyddodd Cordina i sicrhau ei le wedi gornest yn erbyn y Gwyddel, David Joyce ddydd Gwener.
Fe fydd Cordina yn cystadlu yng nghategori pwysau 60kg.
Mae Cordina wedi bod yn hyfforddi yng nghampfa St Joseph's yng Nghasnewydd.